Siarad a Chyflwyno

Tuesday 04 February 2020, 9am - 11am

Room 1.08, Two Central Square

Event Information

Mae'r gweithdy hwn wedi'i ddylunio i'ch gwneud yn ymwybodol bod sgiliau siarad a chyflwyno da yn hanfodol ym mhob amgylchedd. Mae’r rhan fwyaf o swyddi i raddedigion heddiw yn gofyn am gyflwyniad fel rhan o'r broses gyfweld, felly mae'n bwysig meistroli'r sgil hwn. Mae'r uned hon yn trafod paratoi, trywydd eich sgwrs, technegau siarad a chael agwedd gadarnhaol tuag at eich cyflwyniad. Pwrpas yr uned hon yw eich helpu i fod yn fwy cryno, i deimlo’n fwy hyderus a siarad yn rhugl; nodweddion a fydd yn eich helpu wrth gyflwyno. Bydd y sesiwn hwn felly yn cynnig ymarferion i chi drosglwyddo eich neges yn llwyddiannus i’ch cynulleidfa. Bydd eich presenoldeb yn y sesiwn hwn yn cynyddu eich hyder ac yn eich paratoi tuag at gyflwyniad ymarferol a fydd yn cael ei asesu.

More Events

default