Cymraeg

Plan Ahead

 

  • Don’t just make a shopping list – plan your meals too.
  • Check what’s in your fridge before shopping so you eat food you’ve already got before its ‘use by’ date.
  • Talk to your housemates about sharing meals or allow them to swap foods with you if they are going out of date before you can eat them.

When you're shopping

 

  • Check ‘use by’ dates when buying food to make sure you’ll use it in time.
  • Be careful with special offers such as 3 for 2. You might end up with too much food to eat before its ‘use by’ date!
  • Before taking advantage of special offers, think if you can freeze the extra pack, or cook double the amount and freeze to use later.

Love leftovers

 

  • Don’t throw out your leftovers – they could be tomorrow’s lunch!
  • Cool leftovers as quickly as possible (splitting into smaller portions can help), cover and refrigerate.
  • Use leftovers within 2 days and reheat until steaming hot.
  • Don’t reheat leftovers more than once.

 

 

The big chill

 

  • You may be able to freeze food up until its ‘use by’ date. Check the packaging to see if it’s suitable for freezing.
  • Freeze your leftovers. Wait till they’ve cooled before you put them in the freezer.
  • Always defrost leftovers completely, either in the fridge or in the microwave.
  • Cook within 24 hours of defrosting until steaming hot and do not refreeze.

Waste

No one likes to see good food go to waste. Yet every year in the UK we throw away 7.2 million tonnes of food and drink that is still safe to eat. Put another way, each month the average family throws out around £50 of good food. With prices rising, that’s something few of us can afford. But at the same time, we need to eat safely.

So how can we make sure we don’t throw away food that’s still good to eat – without taking chances with food that could make us ill?

To make your food budget go further, use our guide (opposite) to understand what the different dates on food labels mean – and see how much money you can save by wasting less food.

 

 

Dates on food labels - what do they mean?

Use by dates are on foods that go off quickly, like raw meat or fish, cooked sliced meats, dairy products and prepared salads. Always check the ‘use by’ date before you cook or eat food. After the ‘use by’ date, food could be unsafe to eat, even if it looks and smells fine.

Best before dates show how long foods, such as bread or dried or tinned food, will be at its best. After that date, the food is normally still safe to eat, but might not have the same flavour and texture as when it was at its best.

 

  • Display until/Sell by dates don’t appear on all foods. They provide information to help shops manage their stocks. You don’t need to throw food out if it reaches these dates.
  • Storage instructions are things like ‘eat within 3 days of opening’ or ‘refrigerate after opening’. Follow these instructions to keep food safe, but remember the ‘use by’ date still applies. For example, if the ‘use by’ date is tomorrow, you must use the food by the end of tomorrow – even if the label says ‘eat within 3 days’ and you only opened it today.

 


Cynlluniwch Ymlaen Llaw

  • Peidiwch â gwneud rhestr siopa yn unig - cynlluniwch eich prydau bwyd hefyd. 
  • Gwiriwch beth sydd yn eich oergell cyn siopa fel eich bod yn bwyta bwyd sydd gennych eisoes cyn ei ddyddiad 'defnyddio erbyn’ 
  • Siaradwch â'ch cyd-letywyr am rannu prydau bwyd neu gadewch iddyn nhw gyfnewid bwydydd gyda chi os ydyn nhw'n mynd yn hen cyn y gallwch chi eu bwyta. 

Pan fyddwch chi'n siopa

  • Gwiriwch ddyddiadau ‘defnyddio erbyn’ wrth brynu bwyd i wneud yn siŵr y byddwch yn eu defnyddio mewn pryd. 
  • Byddwch yn ofalus gyda chynigion arbennig fel ‘3 am 2’. Efallai y bydd gennych ormod o fwyd i'w fwyta cyn ei ddyddiad 'defnyddio erbyn'! 
  • Cyn manteisio ar gynigion arbennig, meddyliwch a allwch chi rewi'r pecyn ychwanegol, neu goginio dwbl y swm a'i rewi i'w ddefnyddio yn nes ymlaen. 

Bwyta bwyd dros ben

  • Peidiwch â thaflu'ch bwyd dros ben - gallent fod yn ginio ar gyfer yfory! 
  • Oerwch fwyd dros ben cyn gynted â phosibl (gall ei rannu'n ddognau llai helpu), gorchuddiwch a rhowch yn yr oergell. 
  • Defnyddiwch fwyd dros ben o fewn 2 ddiwrnod a'i ailgynhesu nes ei fod yn boeth iawn. 
  • Peidiwch ag ailgynhesu bwyd dros ben fwy nag unwaith. 

 

 
   

Rhewi’n rhwydd

  • Efallai y gallwch rewi bwyd hyd at ei ddyddiad 'defnyddio erbyn'. Gwiriwch y pecyn i weld a yw'n addas ar gyfer rhewi. 
  • Gallwch rewi eich bwyd dros ben. Arhoswch nes eu bod wedi oeri cyn i chi eu rhoi yn y rhewgell. 
  • Dadmerwch y bwyd sydd dros ben yn gyfan gwbl bob amser, naill ai yn yr oergell neu yn y microdon. 
  • Coginiwch o fewn 24 awr ar ôl dadmer nes ei fod yn boeth iawn a pheidiwch ag ail-rewi. 

 

Gwastraff

Nid oes unrhyw un yn hoffi gweld bwyd da yn mynd yn wastraff. Ac eto, bob blwyddyn yn y DU rydym yn taflu 7.2 miliwn tunnell o fwyd a diod sy'n iawn i'w fwyta. Mewn geiriau eraill, bob mis mae'r teulu cyffredin yn taflu tua £50 o fwyd da. Gyda phrisiau'n codi, mae hynny'n rhy ddrud i lawer. Ond ar yr un pryd, mae angen i ni fwyta'n ddiogel.

Felly sut gallwn ni sicrhau nad ydym yn taflu bwyd sy'n dal yn iawn i'w fwyta - heb gymryd siawns gyda bwyd a allai ein gwneud yn sâl?

I wneud y mwyaf o’ch cyllideb bwyd, defnyddiwch ein canllaw (gyferbyn) i ddeall beth mae’r dyddiadau gwahanol ar labeli bwyd yn ei olygu – a gweld faint o arian y gallwch chi ei arbed trwy wastraffu llai o fwyd.

 

 

Dyddiadau ar labeli bwyd - beth maen nhw'n ei olygu?

Mae dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ ar fwydydd sy’n mynd yn ddrwg yn gyflym, fel cig neu bysgod amrwd, cigoedd wedi’u torri a’u coginio, cynhyrchion llaeth a saladau parod. Gwiriwch y dyddiad 'defnyddio erbyn' bob amser cyn i chi goginio neu fwyta bwyd. Ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’, gallai bwyd fod yn anniogel i’w fwyta, hyd yn oed os yw’n edrych ac yn arogli’n iawn.

Mae dyddiadau ‘gwell cyn’ yn dangos pa mor hir y bydd bwydydd, fel bara neu fwyd sych neu dun, ar ei orau. Ar ôl y dyddiad hwnnw, bydd y bwyd fel arfer yn dal yn ddiogel i'w fwyta, ond efallai na fydd ganddo'r un blas ac ansawdd â phan oedd ar ei orau.

  • Nid yw dyddiadau arddangos tan/gwerthu erbyn yn ymddangos ar bob bwyd. Maent yn darparu gwybodaeth i helpu siopau i reoli eu stociau. Nid oes angen i chi daflu bwyd os yw'n cyrraedd y dyddiadau hyn. 
  • Cyfarwyddiadau storio yw pethau fel 'bwyta o fewn 3 diwrnod ar ôl agor' neu 'rhowch yn yr oergell ar ôl agor'. Dilynwch y cyfarwyddiadau hyn i gadw bwyd yn ddiogel, ond cofiwch fod y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ yn dal yn berthnasol. Er enghraifft, os mai yfory yw’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’, rhaid i chi ddefnyddio’r bwyd erbyn diwedd yfory – hyd yn oed os yw’r label yn dweud ‘bwyta o fewn 3 diwrnod’ a dim ond heddiw y gwnaethoch ei agor.