Log in

Gwybodaeth am Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

Mae gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd (UMPC) weledigaeth i weithio â phob myfyriwr Caerdydd i wella’u profiadau prifysgol. Fel sefydliad annibynnol o’r brifysgol sy’n cael ei arwain gan fyfyrwyr, mae UMPC yn cynrychioli myfyrwyr ac yn darparu ystod eang a chynhwysol o weithgareddau a gwasanaethau sy’n cyfoethogi bywydau myfyrwyr. Mae’r rhain yn cynnwys cyngor, hyfforddiant, datblygu sgiliau, cyfleoedd gwirfoddoli, cyflogaeth a gwasanaethau eraill sy’n hyrwyddo cynhwysiad, cyfeillgarwch a datblygiad personol. Mae UMPC yn cefnogi dros 200 o gymdeithasau myfyrwyr a 60 clwb chwaraeon gyda dros 10,000 aelod. UMPC yw llais cydnabyddedig myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, yn ymuno â myfyrwyr yn ymgyrchu am faterion sydd yn bwysig iddyn nhw.

Mae UMPC wedi’i leoli ar Blas y Parc ac ar gampws Parc y Mynydd Bychan, yn cyflogi dros 100 aelod o staff parhaol a 300 o staff myfyrwyr. Mae cwmni is-masnachu UMPC, Gwasanaethau Undeb Caerdydd Cyf, yn rheoli cyfleuster pwrpasol yng nghanol Caerdydd ac yn gweithredu caffis, siopau, bariau a gweithgareddau sy’n helpu ariannu gweithgareddau elusennol UMPC. Mae’r sefydliad yn dal gwobr Sunday Times Cwmnïau Gorau, yn ogystal â dal statws aur drwy Fuddsoddwyr Mewn Pobl. Mae UMPC yn dyheu am gael dylanwad positif ar y gymuned ehangach yng Nghaerdydd ac yn cael ei ystyried yn gyson fel yr Undeb Myfyrwyr gorau yng Nghymru ac yn y pump uchaf yn y DU am foddhad myfyrwyr.

Yr hyn rydym yn ei wneud

Cynyddu llais myfyrwyr

Rydym yn sicrhau bod llais myfyrwyr Caerdydd i'w glywed ar draws y Brifysgol, o fewn y gymuned leol ac mewn cymdeithas yn gyffredinol. Rydym yn gwneud hyn drwy gynnig cefnogaeth i ystod eang o gynrychiolwyr myfyrwyr o fewn yr Undeb a chynrychiolwyr academaidd o bob un o raglenni academaidd y Brifysgol.

Trefnu a chefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau myfyrwyr

Rydym yn darparu cefnogaeth, cyfleusterau ac adnoddau eraill er mwyn galluogi myfyrwyr i sefydlu a datblygu eu cymdeithasau, clybiau chwaraeon, prosiectau gwirfoddoli a grwpiau diddordeb myfyrwyr eu hunain. Mae dros hanner myfyrwyr Caerdydd yn aelodau o un neu fwy o'r grwpiau hyn.

Darparu gwasanaethau a chyfleusterau ar gyfer myfyrwyr

Rydym yn darparu ystod eang o wasanaethau sydd o gymorth i fyfyrwyr wrth iddynt astudio, yn eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol, ac yn eu helpu i gael hwyl a gwneud ffrindiau.

Mae adeilad Undeb y Brifysgol ar Blas y Parc yn cynnig amrediad eang o gyfleusterau y gall ein myfyrwyr eu defnyddio 24 awr y dydd yn ystod y tymor. Mae'r rhain yn cynnwys mannau astudio a chymdeithasol, ystafelloedd cyfarfod y gallwch eu harchebu a chyfleusterau gweddïo.