Ddoe, fe wnaeth Claire Blakeway, Llywydd yr Undeb Myfyrwyr, cyfarfod â Jo Stevens, yr AS dros Ganol Caerdydd i drafod rhai o’r pynciau llosg sy’n effeithio ar fyfyrwyr ar hyn o bryd.
Cynhaliwyd y cyfarfod yn yr Undeb Myfyrwyr lle drafodwyd materion fel toriadau i grantiau cynhaliaeth, newidiadau i fisâu rhyngwladol a sut mae cynnydd yr oedran ar gyfer isafswm cyflog yn effeithio ar bobl ifanc.
Meddai Jo “ar ôl ond ychydig o wythnosau ers yr Etholiad Cyffredinol, mae ymosodiadau llywodraeth y DU ar fyfyrwyr wedi parhau; yn cyfyngu ar fisâu myfyrwyr rhyngwladol, newid grantiau cynhaliaeth i fenthyciadau ac yn atal cynnydd i isafswm cyflog cenedlaethol pobl dan 25 mlwydd oed.”
Mae Jo yn gwrthwynebu’r newidiadau sy’n cymryd lle yn gryf a siaradodd ynglyn â’i theimlad bod y grwp oedran iau yn cael ei dargedu gan y Llywodraeth sy’n codi pryderon ynglyn â dyfodol y genhedlaeth hon.
Anogwyd Claire gan ymateb Jo i'r materion hyn. “Roedd yn ddefnyddiol dros ben i gwrdd â Jo heddiw a nawr mae gen i oleuni pellach ar sut mae hi’n bwriadu ymdrin â materion myfyrwyr ar lefel genedlaethol. Roedd yn galonogol clywed bod Jo yn rhannu’r un safbwynt â’r Undeb Myfyrwyr ac mae hi’n cynrychioli llais y myfyrwyr yn dda yn genedlaethol. Roeddwn i hefyd yn hapus iawn i glywed ei bod hi wedi ymrwymo i gyfarfod ein myfyrwyr unwaith y tymor trwy ein hymgyrch Sabs ar y Soffa ac rwy’n gobeithio y bydd myfyrwyr yn defnyddio’r cyfle hwn i godi unrhyw faterion sy’n bwysig iddynt i’w AS lleol.”
Roedd yn galonogol clywed bod Jo yn rhannu’r un safbwynt â’r Undeb Myfyrwyr ac mae hi’n cynrychioli llais y myfyrwyr yn dda yn genedlaethol.
Yn ystod y cyfarfod, buont hefyd yn trafod etholiadau’r Cynulliad sydd ar y gweill a phwysigrwydd ymrwymiad y myfyrwyr i’r bleidlais. Bydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn ceisio gwella ar lwyddiant ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol eleni drwy gael myfyrwyr i gofrestru wrth iddynt gyrraedd Caerdydd.
Siaradodd Claire a Jo am y ffaith bod pleidleisio yn awr yn fwy pwysig nag erioed. Gyda thoriadau posibl i nifer yr ASau yn y Senedd, mae’n holl-bwysig bod cymaint o bobl â phosibl yn pleidleisio ac yn ymgysylltu â democratiaeth i sicrhau bod nifer yr etholaethau yn aros yn gryf ledled y wlad.
Bydd Jo yn cyfarfod â’r tîm Swyddogion Etholedig llawn diwedd mis Awst ac mae hi wedi ymrwymo i gymryd rhan yn ein hymgyrch Sabs ar y Soffa unwaith y tymor. Ar gyfer yr ymgyrch gyffrous hon, bydd y tîm Swyddogion Etholedig yn mynd o gwmpas campws gyda’u soffa ffyddlon yn siarad â myfyrwyr ynglyn â phethau sy’n effeithio arnynt. Yn ogystal â Jo Stevens, bydd cynghorwyr lleol hefyd yn cymryd rhan yn yr ymgyrch, yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr siarad am eu teimladau fel dinasyddion Caerdydd a’r DU yn gyffredinol, yn ogystal â materion academaidd sy’n effeithio ar eu bywydau myfyrwyr.
Mae Jo hefyd wedi gwneud sylw ar ei hymrwymiad i weithio gyda myfyrwyr. “Fel yr AS dros Ganol Caerdydd, byddaf yn cydweithio’n agos iawn â Claire a’r tîm swyddogion yn UM Prifysgol Caerdydd i sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed yn uchel ac yn glir yn y senedd. Un o’r ymgyrchoedd cyntaf bydd i sicrhau bod y myfyrwyr i gyd yn cofrestru i bleidleisio cyn gynted ag y mae’r tymor yn dechrau. Byddaf yn ymuno’r sesiynau Sabs ar y soffa, yn mynychu cymorthfeydd lleol ac yn ymuno â digwyddiadau ymgyrch i wrando ar bryderon a syniadau myfyrwyr.”
Eisiau ymuno yn y drafodaeth? Cysylltwch â ni:
Claire Blakeway: @PresidentCSU
Jo Stevens: @JoStevensLabour