Cymraeg

We're currently migrating to a new website please be patient while we sort thought all this old content

Ents

ADRAN ADLONIANT UNDEB MYFYRWYR CAERDYDD




Croeso i guriad calon yr undeb - ein gwaith yw sicrhau bod dy fywyd yn llawn o angerdd, mwynhad a dathlu. Mae yma rywbeth i bawb, saith niwrnod yr wythnos - y gorau, yr uchaf, y butraf yn holl hanes Caerdydd a Chymru!

Yn ystod dy amser yma mi fydd rhai o enwogion disgleiria'r byd yn ymweld. Yn y gorffennol, rydyn ni wedi croesawu The Coral, Razorlight, Fatboy Slim, The Doves, GLC, The Darkness, Supergrass, Keane, The Zutons a llawer iawn mwy. Yn 2005 mi fyddwn yn gweld Supergrass, 2 Many DJ's, Ian Brown, Bloc Party, The Magic Numbers, The Coral, The Ordinary Boys, Kt Tunstall a Motorhead.

Ac mae yna fwy o lawer ar gyfer y dawnswyr, y prancwyr a'r drygionwyr yn eich plith:

Nos Lunnoson “wahanol”, gyda DJs arbenigol, sêr arbennig a digon o bethau annisgwyl

Nos Fawrthnoson gomedi yng nghwmni pobl ddoniolaf y wlad

Nos FercherNoson thema arbennig, sef Rubber Duck - mae'r cyfan mewn gwisg ffansi ac mae'n warthus o fywiog.

Rydyn ni'n symud at y penwythnos…

Nos WenerHyd at 4/2/2006, L:ashtastic; o hynny ymlaen, Fat Friday ac mae'r cyfan yn fras iawn!

Nos SadwrnDewch yn llu i ComePlay - ifanc, hyfryd, deniadol a rhydd… fydd dy fam ddim yn cymeradwyo…

Felly anghofia'r llyfrau, gwisga i blesio a thyrd i siglo dy din!

Atyniadau gwych tymor yr Hydref!




Mae holl fanylion pob cyngerdd ar ein tudalen arbennig.

images